Rhif y ddeiseb: P-06-1226

Teitl y ddeiseb: Dileu'r hyn sy’n rhwystro mynediad i waith cymdeithasol ac annog parch cydradd rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd.

Geiriad y ddeiseb: Mae polisi presennol Llywodraeth Cymru yn gosod caledi diangen ar ddarpar weithwyr cymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr sy’n dilyn cwrs Meistr mewn gwaith cymdeithasol yn cael eu gwahardd rhag cael benthyciad i fyfyrwyr a bwrsariaeth gofal cymdeithasol ar yr un pryd.

Rydym yn galw ar Senedd Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru annog a chefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol o bob cefndir, cael gwared ar rwystrau i'r proffesiwn, a datblygu mwy o barch cydradd rhwng y gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

 

 

 


1.        Cefndir

Mae Cyngor Gofal Cymru(CGC) yn rheoli’r cynllun bwrsariaeth gwaith cymdeithasol i fyfyrwyr sy'n astudio cwrs wedi'i gymeradwyo ar gyfer gradd gyntaf neu radd Meistr mewn gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Mae CGC wedi cyhoeddi canllawiau ar y cynllun bwrsariaeth gwaith cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021 i 2022, ac mae gwefan CGC hefyd yn darparu gwybodaeth am gyllid ar gyfer myfyrwyr gwaith cymdeithasol.

Mae gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru yn rhoi gwybodaeth am gyllid ar gyfer cyrsiau Meistr ôl-raddedig ac yn nodi na all person gael cyllid gradd Meistr ôl-raddedig os yw’n cael cyllid gan fwrsariaeth gwaith cymdeithasol. Mae hefyd yn nodi na all person gael cyllid gradd Meistr ôl-raddedig os yw'n gymwys i gael bwrsariaeth GIG.

Dyma a ddywed y wybodaeth gefndir i’r ddeiseb:

Mae myfyrwyr sy’n dilyn cwrs Meistr mewn gwaith cymdeithasol yn cael eu gwahardd rhag cael benthyciad i fyfyrwyr a bwrsariaeth gofal cymdeithasol ar yr un pryd. Mae hyn yn arwain at ddiffyg o filoedd o bunnoedd heb unrhyw gefnogaeth ar gyfer llety, bwyd, biliau cyfleustodau, car, a chostau byw cyffredinol am dros ddwy flynedd.

Mae hyn yn gosod pwysau aruthrol ar weithlu'r dyfodol ac yn rhwystr i'r proffesiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein cydweithwyr yn y GIG gyda grantiau i dalu ffioedd dysgu yn llawn, yn ogystal â chaniatáu mynediad i fwrsariaethau costau byw neu dalu cyflog. Cafodd llawer o fyfyrwyr y GIG y taliad COVID pan gafodd myfyrwyr gwaith cymdeithasol eu heithrio. Mae hynny er gwaetha’r ffaith bod myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn rheoli miloedd o lwythi achosion ledled Cymru yn ystod y pandemig.

Mae’r diffyg parch cydradd rhwng gwaith cymdeithasol a gofal iechyd yn cael ei gyfleu i’r dim gan y driniaeth wahaniaethol ymhlith myfyrwyr Cymru. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru'r cyllid uchaf erioed - sef £227m - ar gyfer addysgu a hyfforddi gweithlu'r GIG. Byddai llai na 0.2% o'r swm hwnnw'n unioni’r anawsterau sy'n wynebu myfyrwyr cwrs meistr mewn gwaith cymdeithasol yng Nghymru.

 

 

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mewn llythyr at y Pwyllgor dyddiedig 14 Rhagfyr 2021, mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio tuag at sicrhau parch cydradd rhwng y gweithluoedd gofal cymdeithasol ac iechyd a bod y Llywodraeth yn cymryd camau i wella amodau gwaith gweithwyr gofal cymdeithasol a phroffesiynoli'r sector trwy broses o gofrestru.

Mae CGC yn arwain y gwaith o ddatblygu Cynllun Gweithlu gwaith cymdeithasol a fydd, yn ôl y Dirprwy Weinidog, yn cynnwys ystyried pa newidiadau y gellid eu gwneud i gefnogi pobl i hyfforddi fel gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys mewn perthynas â'r fwrsariaeth. Dyma un o'r camau gweithredu cynnar sy'n cael eu cymryd o dan y Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y cyd rhwng Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Chyngor Gofal Cymru. Disgwylir i’r cynllun gweithlu drafft fod ar gael yn 2022.

Mae’r Dirprwy Weinidog yn cydnabod y ffaith bod anghysondeb yn y rheoliadau sy’n llywodraethu cyllid myfyrwyr wedi rhwystro myfyrwyr ôl-raddedig sydd wedi dewis derbyn y fwrsariaeth gwaith cymdeithasol rhag ymgeisio am rai benthyciadau myfyrwyr.

Mae’r Dirprwy Weinidog hefyd yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i edrych ar sut y gellid newid y rheoliadau i alluogi ôl-raddedigion i gael mynediad at gymorth ariannol ychwanegol gan Gyllid Myfyrwyr Cymru. Bydd y newidiadau hyn, wedi eu cwblhau, yn golygu y bydd myfyrwyr cymwys yn gallu gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am fenthyciad gostyngol ychwanegol, yr un fath â myfyrwyr israddedig.

Fodd bynnag, mae’r Dirprwy Weinidog yn tynnu sylw at y ffaith y bydd hyn yn gofyn am i’r meini prawf cymhwysedd a nodir mewn rheoliadau gael eu diwygio rywfaint, sef proses sy’n dal i fynd rhagddi, ac oherwydd yr amserlenni ar gyfer cyflwyno rheoliadau o’r fath, ni fyddai unrhyw newidiadau yn dod i rym tan y flwyddyn academaidd 2022/23.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Ar 4 Tachwedd 2021, rhoddodd AaGIC ac CGC dystiolaeth i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am eu strategaeth ar y cyd, Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020.

Yn nhystiolaeth ysgrifenedig AaGIC ac CGC i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, nodir bod gwaith wedi dechrau mewn meysydd o brinder gweithlu aciwt ar gynlluniau gweithlu ar gyfer galwedigaethau allweddol a gydnabyddir yng nghamau gweithredu'r Strategaeth, gan gynnwys gwaith cymdeithasol.

Mae tudalen 10 o'r dystiolaeth ysgrifenedig yn nodi bod adolygiad o addysg a chyllid gwaith cymdeithasol ar waith i gydnabod y pwysau recriwtio uniongyrchol ym maes gwaith cymdeithasol. Bydd yr adolygiad yn cyflwyno canfyddiadau o ran cyflenwad gwaith cymdeithasol a’r galw amdano, ynghyd â'r heriau a wynebir, gyda chymariaethau â gwledydd eraill y DU a llwybrau proffesiynol eraill yng Nghymru h.y. iechyd ac addysg.

Mae AaGIC ac CGC yn nodi eu bod yn gwneud y defnydd gorau o'r ymgyrchoedd recriwtio HyfforddiGweithioByw  (AaGIC) a Gofalwn (CGC) sy’n mynd rhagddynt, ac yn tynnu sylw at ‘bentref rhithwir' ar gyfer gyrfaoedd iechyd a gofal newydd, sef Tregyrfa/Careersville.

Er mwyn llywio'r sesiwn dystiolaeth gydag AaGIC a Chyngor Gofal Cymru, cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymgynghoriad agored rhwng 25 Awst ac 8 Hydref 2021. Pryder a amlygwyd mewn rhai o’r ymatebion a gafwyd oedd diffyg cydraddoldeb rhwng tâl a thelerau/amodau ar gyfer staff gofal cymdeithasol a staff iechyd.

Dywed AaGIC ac CGC yn eu tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor eu bod yn gweithio i wella cydraddoldeb rhwng staff iechyd a staff gofal, yn ogystal ag o fewn y sector gofal ei hun.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.